The Economics Network

Improving economics teaching and learning for over 20 years

Cefndir a Bwriad

Mae Rhwydwaith Economeg yr Academi Addysg Uwch yn un o 24 o rwydweithiau pwnc sy'n hyrwyddo dysgu ac addysgu o ansawdd uchel trwy ddatblygu a throsglwyddo arferion da. Mae'r Academi Addysgu Uwch yn dod thair menter at ei gilydd, Rhwydwaith Cefnogi Dysgu ac Addysgu (LTSN), Sefydliad Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch (ILTHE) a Thm Cydweithredu Cenedlaethol (NCT) Cronfa Gwella Ansawdd Addysgu (TQEF).


Bwriad

Bwriad Rhwydwaith Economeg yr Academi Addysg Uwch yw gwella ansawdd dysgu ac addysgu trwy gymuned economeg addysg uwch.

Nodau ac amcanion strategol

Darparu llais gwybodus ac annibynnol ar brofiad dysgu ac addysgu economeg o safbwynt staff, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a chyflogwyr

  • Cyflawni a chomisiynu gwaith ymchwil gwreiddiol i addysg economeg
  • Darparu ar gyfer cyhoeddi gwaith ymchwil i addysg economeg
  • Cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr gyfrannu eu profiadau a'u dealltwriaeth o economeg

Cydnabod, dathlu ac annog arfer da ac arloesol oddi mewn i'r gymuned economeg Addysg Uwch

  • Gweithredu cynllun gwobrwyo blynyddol i wobrwyo rhagoriaeth unigol mewn dysgu ac addysgu
  • Ariannu a chefnogi arloesi adrannol ar raddfa fach
  • Cefnogi prosiectau dysgu ac addysgu a ariennir yn genedlaethol a sicrhau bod eu cynnyrch yn cael ei rannu trwy'r gymuned economeg
  • Arddangos enghreifftiau o arfer da ac arloesol mewn economeg

Darparu cefnogaeth ymarferol ac i arbed amser i unigolion, adrannau a sefydliadau yn Addysg Uwch y DU

  • Darparu sail adnoddau dysgu ac addysgu cynhwysfawr ar gyfer economegwyr academaidd
  • Cynnal rhaglen o ddigwyddiadau datblygu staff yn adrannol, rhanbarthol a chenedlaethol
  • Darparu hyfforddiant a chefnogaeth bwrpasol i Ddarlithwyr Newydd a Chynorthwywyr Addysgu Graddedig
  • Darparu diweddariadau rheolaidd am weithgareddau'r Rhwydwaith a datblygiadau o ran dysgu ac addysgu i gysylltiadau allweddol ac i eraill sydd diddordeb

Cynnig arweinyddiaeth a chynghori ar faterion polisi cenedlaethol a materion polisi pwnc-benodol

  • Ymchwilio i anghenion meysydd arbenigol mewn economeg a mynd i'r afael hwy
  • Cyfrannu i'r agenda polisi cenedlaethol sy'n datblygu
  • Dehongli a darparu cefnogaeth ar gyfer mentrau polisi cenedlaethol yn y gymuned economeg
  • Darparu cyngor ac arweiniad arbenigol ar faterion dysgu ac addysgu i'r cyrff proffesiynol ac academaidd yn y gymuned economeg

Gweithredu amgylchedd waith deinamig, cyfranogol iawn sy'n cefnogi rheoli, cyflwyno a monitro effeithiol

  • Cael ein ffurfio a'n harwain yn ein gwaith a'n gweithgareddau gan y gymuned economeg
  • Ystyried yn feirniadol ein harferion ein hunain er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni anghenion y gymuned economeg
  • Cynnwys staff yn gyfan gwbl wrth gynllunio a datblygu eu rolau eu hunain ac yn strategaethau ac arferion y Rhwydwaith
  • Datblygu a gweithredu strategaeth farchnata a chyfathrebu gynhwysfawr i'r Rhwydwaith